Os ydych chi awydd mynd â’ch profiad sglefrio i’r lefel nesaf, bydd ein Llwybr Iâ 150m yn rhedeg trwy dir y Castell ac yn caniatáu i ymwelwyr sglefrio yn yr amgylchedd mwyaf hudolus – yn erbyn cefndir y Gorthwr Normanaidd.

Lawnt Neuadd y Ddinas – Bwyd a Diod Nadoligaidd
Mwynhewch ddanteithion Nadoligaidd melys a sawrus dan gysgod ein hardaloedd eistedd.