Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Gŵyl Y Gaeaf yn ôl ar gyfer 2022!
Pwyntiau Pwysig ar gyfer eich sesiwn sglefrio
- Ni chaniateir bagiau, ffonau, clustffonau na chamerâu ar yr iâ
- Mae ystafell gotiau ar gael – £2 y bag am bob sesiwn
- Dim ond i sglefrwyr o dan 1.2m o daldra y mae’r pengwiniaid ar gael
- Mae esgidiau sglefrio â dau lafn ar gael i blant sydd â maint esgidiau plant 8 – 11. Nifer cyfyngedig iawn o esgidiau sglefrio â dau lafn sydd gennym felly cyntaf i’r felin.
- Gellir cyfnewid tocynnau hyd at 48 awr cyn y sesiwn (efallai y codir tâl am gyfnewid tocynnau)
- Mae’n rhaid i sglefrwyr fod dros 3 oed i sglefrio ar y llawr sglefrio, mae’n rhaid i oedolyn (18+) ddod gydag unrhyw un 16 oed neu iau
Beth i’w wneud wrth gyrraedd
Gallwch fynd i mewn i’r Castell drwy’r giât flaen neu’r giât gefn er mwyn cael mynediad i’r Llawr Sglefrio, pan fyddwch yn y Castell, ewch tuag at y babell sglefrio fawr.
Nid oes angen i chi gael tocyn i fynd i mewn i’r castell, gall pobl ddod i wylio’r sglefrwyr o’r ardal eistedd ger yr ardal Cerdded ar Iâ – ni chaniateir i wylwyr fynd i mewn i’r ardal sglefrio.
Rydym yn argymell eich bod yn dechrau ciwio ar gyfer eich sesiwn o leiaf 15 munud cyn amser dechrau’ch sesiwn. Wrth giwio, gwnewch yn siŵr bod eich tocyn yn barod i’w sganio. Nid oes angen i chi ei argraffu, gallwch ei ddangos ar eich ffôn neu dabled.
Pan fydd eich tocyn wedi’i sganio, gallwch gasglu’ch esgidiau sglefrio ac unrhyw bengwiniaid o’r cownter ac yna chwiliwch am fainc i wisgo’ch esgidiau sglefrio. Cofiwch nad oes modd i sglefrwyr fynd ag unrhyw fagiau nac eitemau llac ar yr iâ. Gellir gadael bagiau gyda sglefrwyr gyda rhywun nad yw’n sglefrio neu gellir eu rhoi yn ein hystafell gotiau (£2 yr eitem). Peidiwch â gadael eitemau heb rywun i ofalu amdanyn nhw yn yr ardal sglefrio nac o gwmpas yr ardal cerdded ar iâ am y gallent gael eu cymryd oddi yno neu eu dinistrio.
Ffitiwch eich esgidiau sglefrio ac yna pan fyddwn yn barod, byddwn yn eich galw at yr iâ. Mwynhewch!
OEDRANNAU SGLEFRIO
Yr isafswm oedran ar gyfer sglefrio yw 3 oed neu’n hŷn – ni allwn ganiatáu i unrhyw un o dan 3 oed fynd ar yr iâ waeth beth fo’u maint, eu taldra, neu eu gallu. Mae tocynnau plant ar gael i sglefrwyr o 3 oed hyd at 16 oed.
Mae’n rhaid i rywun dros 18 oed ddod gydag unrhyw un o dan 16 oed.
PENGWINIAID
Mae nifer cyfyngedig o Bengwniaid sy’n cynnig cymorth i sglefrwyr ar gael ar gyfer pob sesiwn, mae modd archebu’r rhain ymlaen llaw ar-lein neu eu harchebu ar y diwrnod yn nesg yr ardal sglefrio. Byddwch yn ymwybodol mai cyntaf i’r felin yw hi ar gyfer y Pengwiniaid.
- Dim ond sglefrwyr o dan 1.2M o daldra (gan wisgo esgidiau) y gall ddefnyddio’r Pengwiniaid. Mae taldra pob defnyddiwr yn cael ei wirio cyn rhoi’r Pengwiniaid – y Rheolwr sydd ar ddyletswydd sy’n cael gwneud y penderfyniad terfynol ar daldra.
- Nid ydym yn rhoi ad-daliad ar gyfer Pengwiniaid sydd wedi’u harchebu ymlaen llaw os yw’r plentyn yn dalach na 1.2m.
- Cost pengwin yw £5.00 y pen / y sesiwn.
- Mae’n rhaid i’r pengwin gael ei wthio gan y defnyddiwr o’r tu ôl iddo. Rhaid i ddefnyddwyr beidio â reidio ar y Pengwiniaid nac eistedd ar y Pengwiniaid. Bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal yn camddefnyddio’r pengwin yn colli’r pengwin hwnnw ac mae’n bosibl y gofynnir i’r person adael yr iâ.
- Mae’n rhaid defnyddio’r Pengwiniaid yn ôl y cyfarwyddyd a nodir ar yr arwyddion diogelwch o amgylch yr iâ.
- Ni ellir cyfnewid pengwiniaid rhwng plant na’u rhoi i unrhyw barti arall.
- Mae’n rhaid dychwelyd unrhyw bengwniaid nad ydynt yn cael eu defnyddio / nad oes eu hangen rhagor yn ôl i’r ddesg llogi Pengwiniaid
ESGIDIAU SGLEFRIO IÂ
Mae tocyn mynediad i’r Iâ yn cynnwys llogi esgidiau sglefrio. Mae gennym esgidiau sglefrio o faint plant J8 i faint oedolion 15. Yn gyffredinol, nid oes hanner meintiau (4.5 / 7.5 ac ati) ar gael. Cyntaf i’r felin yw hi gyda’r esgidiau sglefrio. Yn ystod sesiynau prysur, mae’n bosibl y byddwn yn rhedeg allan o rai meintiau – cynigir maint arall i gwsmeriaid lle bo hynny’n bosibl. Mae croeso i sglefrwyr ddod â’u hesgidiau sglefrio eu hunain, ond ni roddir unrhyw ostyngiad ar bris tocyn mynediad ar gyfer hyn.
Mae esgidiau sglefrio gyda dau lafn ar gael am ddim i blant gyda maint esgidiau hyd at faint plant 11. Mae’r esgidiau sglefrio hyn yn addas i blant sy’n cael trafferth cydbwyso ar esgidiau sglefrio ag un llafn.
Mae esgidiau sglefrio â dau lafn yn ffitio dros esgidiau’r plentyn ond mae’n rhaid i’r esgidiau fod yn esgidiau hyfforddi fflat. Ni fydd esgidiau mawr / welingtons yn ffitio yn yr esgidiau sglefrio â dau lafn.
Sylwch fod stoc yn gyfyngedig ar gyfer esgidiau sglefrio â dau lafn felly cyntaf i’r felin yw hi. Efallai y gofynnir i chi am flaendal o £5 ar gyfer yr esgidiau sglefrio â dau lafn.
HYGYRCHEDD
Mae’r Llawr Sglefrio Iâ a’r Ardal Cerdded ar Iâ yn hygyrch i bawb! Rydym yn croesawu pob gallu ac unrhyw ofynion mynediad.
Mae’r Llawr Sglefrio Ia / Cerdded ar Iâ yn addas i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn â llaw neu rhai trydanol. Sylwch y gallai fod angen i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn trydanol newid eu gosodiadau i’w defnyddio â llaw i osgoi llithro / sgidio ar yr iâ. Siaradwch â’r Rheolwr Dyletswydd sydd ar y llawr sglefrio nos nad ydych yn siŵr cyn dechrau sglefrio ar yr iâ.
Rydym yn argymell bod cynorthwyydd personol neu ofalwr yn dod gyda phobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn.
Rydym yn cynnig mynediad am ddim i 1 cynorthwyydd personol neu ofalwr pan fyddwch yn archebu tocyn hygyrchedd. Mae’n rhaid i’r cynorthwyydd personol neu ofalwr wisgo esgidiau sglefrio iâ neu grips iâ, rydym yn argymell gafaelion iâ.
Rydym yn cynnal sesiwn hygyrchedd penodol bob dydd Mercher – mae’r sesiynau hyn yn dawelach (o ran y sain) a dim ond os oes tocyn hygyrchedd gennych y mae modd mynd i’r sesiwn hon.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy: ustomerservices@a2hlive.com
TOCYNNAU MYFYRWYR
Bydd angen i holl Ddeiliaid Tocyn Myfyrwyr ddarparu cerdyn adnabod myfyriwr dilys wrth fynd i mewn i’r atyniad. Bydd methu â dangos cerdyn adnabod myfyriwr dilys (Cerdyn Adnabod y Brifysgol neu Gerdyn NUS) yn golygu y bydd angen i ddeilydd y tocyn brynu tocyn newydd ar bris llawn er mwyn cael mynediad.
BAGIAU / BAGIAU CEFN
Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal archwiliad diogelwch ar unrhyw fag ar y safle.
Ni chaniateir dod â bagiau ar yr iâ. Mae ystafell gotiau ar gael lle mae modd gadael eiddio ar gost o £2 yr eitem. Gellir gadael pramiau yn yr ystafell gotiau am ddim.
Cofiwch efallai y bydd bagiau sy’n cael eu gadael yn yr Ardal Sglefrio neu o gwmpas y llawr sglefrio yn cael eu tynnu oddi yno a gellir eu dinistrio gan wasanaethau diogelwch. Peidiwch â gadael bagiau heb neb i ofalu amdanynt.
DYFEISIAU ELECTRONIG CLUDADWY
Gwaherddir defnyddio ffonau symudol, llechi, camerâu, chwaraewyr cyfryngau neu glustffonau (gwifrau neu ddiwifr) ar yr iâ yn llwyr. Gofynnir i unrhyw un sy’n defnyddio dyfais electronig / clustffonau ar yr iâ i adael yr iâ heb ad-daliad.
BETH I’W WISGO
Mae’r llawr sglefrio iâ dan orchudd ond mae’r Llwybr Iâ yn agored felly bydd angen dillad cynnes arnoch chi. Ni allwn warantu’r tywydd felly efallai y bydd angen dillad dal dŵr arnoch chi.
Bydd angen pâr o sanau arnoch chi, rydym yn argymell sanau trwchus.
Rydym yn cynghori twcio unrhyw ddillad rhydd – sgarffiau ac ati. Gallwch chi wisgo cotiau a hwdis ond mae’n rhaid i chi gadw’r hwd i lawr – mae hyn er mwyn i chi allu gweld sglefrwyr eraill o’ch cwmpas. Os ydych chi’n gwisgo’ch hwd bydd ein staff yn gofyn ichi ei dynnu i lawr, os bydd rhaid gofyn mwy nac unwaith, efallai y gofynnir i chi adael yr iâ.
TIRWEDD
Byddwch yn ymwybodol, oherwydd natur anwastad y tir ar y safle, y gallai fod yn anodd i wylwyr symud o gwmpas yn rhwydd. Mae pob gwyliwr yn dod i mewn ar ei risg ei hun ac fe’u cynghorir i wisgo esgidiau addas.
YSMYGU – SIGARÉTS, E-SIGARÉTS a FÊPIO
Ni chaniateir ysmygu, defnyddio sigaréts, e-sigaréts na fêpio yn unman ar y safle. Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid ac ymwelwyr sy’n cael eu dal yn ysmygu yn cael eu hanfon i ffwrdd o’r safle.
GWYBODAETH I’R GWYLWYR
Ni chaniateir ffotograffiaeth fflach ar yr iâ nac o’i gwmpas. Gall fflachiadau dynnu sylw’r sglefrwyr neu gall achosi epilepsi a all fod yn beryglus iawn ar yr iâ.
SYLWADAU / CWYNION
Rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i gynnig profiad rhagorol i’n holl westeion ond weithiau mae pethau’n digwydd a all effeithio ar y profiad hwnnw. Os ydych chi’n teimlo bod rhywbeth wedi effeithio ar eich ymweliad, siaradwch â’r Rheolwr Dyletswydd a fydd yn gallu gweithredu ar unwaith. Os nad ydych yn hapus â sut yr ymdriniwyd â’r sefyllfa ar y safle, gallant gyfeirio’r gŵyn am ymchwiliad pellach.
Os hoffech chi siarad â rhywun ar ôl eich ymweliad, anfonwch e-bost at CustomerServices@A2Hlive.com – Byddwch yn ymwybodol y gall fod yn anodd iawn ymchwilio a datrys sefyllfa ar ôl i chi adael y safle, felly siaradwch â’n tîm ar y safle os yw hynny’n bosibl.