Eleni, bydd ein llawr sglefrio iâ ar dir Castell Caerdydd. Mae ein llawr sglefrio, 40m x 15m dan orchudd yn addas ar gyfer pob oedran a gallu. Mae sesiynau hygyrch hefyd ar gael bob dydd Mercher, rhwng 13.30 – 14.30.

Lawnt Neuadd y Ddinas – Bwyd a Diod Nadoligaidd
Mwynhewch ddanteithion Nadoligaidd melys a sawrus dan gysgod ein hardaloedd eistedd.