Mae’r ddau safle yn agor ar 15 Tachwedd 2022 i groesawu’r cyhoedd yn ôl i fwynhau hwyl yr ŵyl!
Dim ond ar Ddydd Nadolig ac ar ŵyl San Steffan y byddwn ar gau. Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan am oriau agor am y gallai’r rhain newid oherwydd amgylchiadau annisgwyl.
Na allwch yn anffodus, dim ond ar y safle y mae modd archebu tocynnau bwyd, diod a reidiau. Mae angen archebu tocyn ymlaen llaw ar gyfer y sglefrio iâ ac ar gyfer y Bar Iâ.
Nac oes! Nid oes ffi mynediad, mae am ddim i fynd i mewn, dim ond ar gyfer yr atyniadau o’ch dewis y mae’n rhaid i chi dalu ar eu cyfer.
Mae’r reidiau yn costio £1.00 yr un a gellir eu harchebu o’r swyddfa docynnau ar y safle. Bydd y swyddfa docynnau yn cau 15 munud cyn amser cau’r safle bob nos.
Nid ydym yn caniatáu cŵn ar safle’r digwyddiad. Caniateir cŵn tywys ac mae powlen ddŵr ar gael ger Sur La Piste. Sylwch y gall Gŵyl y Gaeaf Caerdydd fod yn brysur ac yn swnllyd iawn felly efallai na fydd yn addas i gŵn.
Oes! Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth ac rydym am i bawb deimlo’n ddiogel tra’u bod yn y digwyddiad. Weithiau, gall ein swyddogion diogelwch archwilio bagiau ac mae cyfyngiadau ar ba eitemau a ganiateir gennym ar y safle. Rydym yn gofyn i ymwelwyr i barhau i fod yn wyliadwrus ac i beidio â gadael bagiau, nac eiddo heb rywun i ofalu amdanynt.
Nid ydym yn caniatáu’r eitemau canlynol ar safle’r digwyddiad –
- Cyllyll
- Tân gwyllt
- Canisters Mwg
- Cyrn Awyr
- Fflêr
- Arfau
- Eitemau Peryglus
- Laserau
- Poteli/llestri gwydr/caniau
- Polion
- Dronau
- Unrhyw eitemau y gellir eu defnyddio fel arf neu a all beryglu diogelwch y cyhoedd
- Poteli diod/hylif wedi’u hagor (Derbynnir poteli dŵr heb eu hagor)
Ni fydd glaw yn rhoi stop arnom! Mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn ddigwyddiad awyr agored felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo’n gynnes. Mae mannau dan orchudd a mannau eistedd dan do ar gael ac rydym yn annog pawb i ddefnyddio’r rhain.
Os bydd tywydd garw eithafol (gwyntoedd cryfion ac ati) efallai y bydd angen i ni gau’r safle ar fyr rybudd – ble bynnag y bo modd, byddwn yn hysbysebu hyn ar ein sianelu cyfryngau cymdeithasol ond efallai na fyddwn yn gallu rhoi rhybudd mewn da bryd os bydd angen i ni gau am resymau diogelwch.
Oes, bydd cymorth cyntaf ar gael ar draws y digwyddiad. Ewch at aelod o’r tîm os oes angen sylw meddygol arnoch.
Rydym yn gweithredu polisi her 25 yn y digwyddiad, felly wrth brynu alcohol, os ydych yn edrych yn iau na 25 oed, bydd gofyn i chi ddangos cerdyn adnabod dilys i gadarnhau eich bod yn 18 oed neu’n hŷn.
Ni chaniateir i westeion ddod ag alcohol i mewn i’r safle ac mae’n rhaid gorffen unrhyw ddiodydd alcoholig a brynir ar y safle cyn gadael safle’r digwyddiad.
Mae bandiau ar gael o’n swyddfa docynnau. Os oes angen band gofalwyr arnoch, sicrhewch fod gennych brawf addas (PIP / llythyr DLA ac ati) wrth gasglu band o’r swyddfa docynnau.
Mae bandiau yn galluogi’r gofalwr i ddefnyddio’r reidiau am ddim gyda’r cwsmer sy’n talu. Dylai cwsmeriaid a’u gofalwyr asesu eu galluoedd eu hunain a gwneud penderfyniad ynglŷn â pha atyniadau y gallant eu defnyddio neu y maent yn dymuno eu defnyddio.
Er ein bod bob amser yn ceisio bod mor gynhwysol â phosibl, mae rhai reidiau ac atyniadau’r digwyddiad yn gallu rhoi pwysau ar y corff. Felly, mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i unrhyw reid neu atyniad pe baem yn teimlo bod risg i’ch diogelwch, neu i ddiogelwch eraill. Mae ein gweithredwyr reidiau ac aelodau o’n tîm bob amser ar gael i gynorthwyo a chynghori mewn unrhyw ffordd y gallant.
Ydyn, mae’n well gennym ddefnyddio cardiau digyswllt.
Mae’r prif Lawr Sglefrio dan orchudd fel o’r blaen, ond nid yw’r ardal Cerdded ar Iâ dan orchudd felly dewch â dillad addas os hoffech ddefnyddio’r ardal honno (efallai y byddwch hefyd am ddod â sanau sbâr i’w gwisgo pan fyddwch wedi gorffen sglefrio).
Ni fydd y llawr sglefrio iâ na’r ardal cerdded ar iâ yn cau os yw’n glawio, ond gall gwesteion ddewis aros ar y prif lawr sglefrio i osgoi’r gwaethaf o’r tywydd gwael.
Na allwch, yn anffodus. Er mwyn sicrhau eich diogelwch a diogelwch sglefrwyr eraill, nid ydym yn caniatáu unrhyw fagiau ar y llawr sglefrio. Gallwch adael eich bag gyda rhywun nad yw’n sglefrio neu mae gennym ystafell gotiau lle gallwch adael eich eitemau (£2 yr eitem) pan fyddwch yn sglefrio.
Os oes gennych fag hanfodol (offer meddygol, meddyginiaeth ac ati) y mae’n rhaid iddo fod ar gael ar bob adeg, gofynnwch i gael siarad â’r Rheolwr Dyletswydd.
Peidiwch â gadael bagiau / cotiau ac ati yn yr ardal sglefrio am y gallent gael eu cymryd oddi yno neu eu dinistrio.
Mae modd archebu fel grŵp ar-lein gan ddilyn y ddolen ‘Archebu tocynnau nawr’ – bydd y system yn dangos argaeledd i chi ac mae’n eich galluogi i brynu cymaint o docynnau sydd eu hangen arnoch (hyd at y nifer uchaf o gapasiti’r sesiwn honno.) Gallwch hefyd brynu tocynnau dros y ffôn drwy TicketSource 03336 663366. Yn anffodus, ni allwn gynnig gostyngiad i grwpiau.
Nid oes gennym swyddfa docynnau ar y safle eleni, gallwch brynu tocynnau ar-lein ar unrhyw adeg. Gallwch hefyd brynu tocynnau dros y ffôn gyda TicketSource ar 0333 666 4466.
Gellir cyfnewid tocynnau Sglefrio Iâ a thocynnau Bar Iâ am ddyddiad gwahanol sydd o’r un gwerth, hyd at 48 awr cyn y sesiwn – os hoffech gyfnewid sesiwn, cysylltwch â TicketSource yn uniongyrchol drwy support@ticketsource.co.uk
Cofiwch fod gennym yr hawl i godi ffi am gyflenwid tocynnau. Mae’n rhaid gwneud cais i gyfnewid tocyn(au) dros e-bost i TicketSource. Mae gennym yr hawl i wrthod unrhyw geisiadau i gyfnewid tocyn lai na 48 awr cyn y sesiwn. Ni fydd ceisiadau a wneir i gyfnewid unrhyw docynnau o fewn 48 awr cyn y sesiwn yn cael ad-daliad na chredyd am y tocyn.
Mae gennym esgidiau sglefrio o faint 8 i blant i faint 15 i oedolion. Yn ystod sesiynau prysur, efallai y byddwn yn rhedeg allan o rhai meintiau, ond byddwn bob amser yn ymdrechu i ddarparu opsiwn addas arall i chi, ond cofiwch mai cyntaf i’r felin fydd hi o ran meintiau’r esgidiau.
Mae hefyd gennym esgidiau sglefrio â dau lafn ar gael i sglefrwyr sydd â maint esgidiau plant 8 – 11 (mae gennym nifer cyfyngedig ar gael felly cyntaf i’r felin.)
Na allwch yn anffodus, er mwyn eich diogelwch chi, nid ydym yn caniatáu dyfeisiau fel ffonau, camerâu, tabledi ac ati, ar yr iâ. Mae gennym dîm o ffotograffwyr proffesiynol ar y llawr sglefrio sy’n tynnu eich lluniau ac mae modd Archebu amrywiaeth o luniau pan fyddwch wedi gorffen eich sesiwn. Os hoffech gael llun ar yr iâ, gofynnwch i’r ffotograffwyr iâ (maen nhw’n gwisgo cotiau gwyrdd).
Ydyn – rydyn ni’n hygyrch i bawb. Sylwch y gallai fod angen i ddefnyddwyr cadair olwyn trydan newid y gosodiadau i’w ddefnyddio â llaw. Rydym hefyd yn cynghori bod gofalwr neu gynorthwyydd yn dod i gynorthwyo unrhyw un sy’n defnyddio cadair olwyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ystod eich ymweliad, gofynnwch i gael siarad â’r rheolwr dyletswydd.
Nid oes angen i chi wisgo gorchudd wyneb ar y safle ond mae croeso i chi wneud hynny wrth gwrs os ydych yn teimlo’n fwy cyfforddus yn gwisgo un.
Ydyn – mae modd archebu tocynnau i fyfyrwyr ar-lein. Cofiwch fod angen i fyfyrwyr ddod â cherdyn adnabod myfyrwyr gyda nhw.
Gallwn – mae modd storio’r rhain yn ein hystafell gotiau cyn belled â’u bod wedi’u plygu.
Yn anffodus, nid oes llefydd parcio ar gael yng Nghastell Caerdydd – Mae parcio hygyrch cyffredinol ar gael ym mhob un o feysydd parcio Canol y Ddinas. Mae mwy o wybodaeth am barcio yng nghanol y ddinas ar gael yma: https://www.visitcardiff.com/visitor-info/car-parks/
Cofiwch y bydd meysydd parcio canol y ddinas yn brysur ac mae’n bosibl y bydd digwyddiadau eraill sy’n digwydd yn y ddinas yn amharu arnynt.
Rydym wedi cynyddu capasiti’r Bar Iâ i 40 o bobl y sesiwn eleni!
Mae’r ddau safle’n cau am 22:00. Mae’r sesiwn sglefrio olaf yn dechrau am 21:00, ac mae’r swyddfa docynnau yn cau 15 munud cyn i’r safle gau.
Rydym yn derbyn cerdyn adnabod myfyriwr prifysgol ffotograffig neu gerdyn NUS.
Oes, mae toiledau ar Lawnt Neuadd y Ddinas ac o fewn y Castell. Mae toiled newid hefyd ar gael yn Lawnt Neuadd y Ddinas.
Yn anffodus, unwaith y bydd sesiwn wedi gwerthu allan, mae wedi cyrraedd ei gapasiti llawn. Nid ydym yn cadw unrhyw docynnau yn ôl ond mae’n bosibl y bydd tocynnau ar gael os ydyn nhw’n cael eu dychwelyd. Nid oes gennym restr aros ar gyfer y sesiynau sydd wedi gwerthu allan, felly rydym yn argymell eich bod yn gwirio’r wefan yn aml.