Gondolas sgïo
Cyfle perffaith am hunlun! Mae ein Gondolas yn dod o’r Swistir ac wedi’u lleoli y tu allan i’r bar Sur La Piste. Caws!
Cyfle perffaith am hunlun! Mae ein Gondolas yn dod o’r Swistir ac wedi’u lleoli y tu allan i’r bar Sur La Piste. Caws!
Eleni, bydd ein llawr sglefrio iâ ar dir Castell Caerdydd. Mae ein llawr sglefrio, 40m x 15m dan orchudd yn addas ar gyfer pob oedran a gallu. Mae sesiynau hygyrch hefyd ar gael bob dydd Mercher, rhwng 13.30 – 14.30.
Rydyn ni’n hoffi cadw pethau’n ffres, a dyna pam rydyn ni wedi ailwampio ein safle! Gyda’r Llwybr Iâ newydd, rydym wedi symud pethau o gwmpas, ond rydym yn *addo* y bydd pob un o’ch hoff atyniadau ar y safle i chi ei fwynhau’r gaeaf hwn. Rydym hefyd wedi ychwanegu mwy o fannau eistedd i’n safle, … Read more
Saif ein Coeden Nadolig yng nghalon Gerddi’r Orsedd, wedi’i haddurno gan ysgol gynradd leol. Bydd ddisgyblion yn cael gafael ar ein bocs addurniadau Nadolig, felly cymerwch gam yn ôl i edmygu campwaith Gŵyl y Gaeaf eleni.
Os ydych chi awydd mynd â’ch profiad sglefrio i’r lefel nesaf, bydd ein Llwybr Iâ 150m yn rhedeg trwy dir y Castell ac yn caniatáu i ymwelwyr sglefrio yn yr amgylchedd mwyaf hudolus – yn erbyn cefndir y Gorthwr Normanaidd.